Gweithgareddau Cysylltu a Chwarae

Available in:

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y tymor a thrwy gydol y gwyliau. Mae ein gweithgareddau’n digwydd mewn llawer o wahanol leoliadau fel bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn gallu cael mynediad iddynt.

Mae ein sesiynau’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu, rhyngweithio a chwarae ac ar gynorthwyo a grymuso teuluoedd fel eu bod yn teimlo’n ddigon hyderus i roi cynnig ar bethau newydd gyda’u plentyn gartref.

Mae ein sesiynau yn ystod y tymor yn cynnwys rhaglenni cymorth wedi’u targedu ar gyfer teuluoedd sy’n chwilio am gymorth rheolaidd, penodol. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau galw heibio i’r sawl y mae angen amserlen fwy hyblyg arnynt, sy’n addas i’w trefn arferol nhw. Gallwch gael gwybod mwy am bob un o’n sesiynau isod, neu ewch i’n cyfleuster dod o hyd i weithgaredd i gael mwy o wybodaeth a chadw eich lle.

A group of young children sitting around a table taking part in a craft activity.

Clwb ar ôl ysgol

Mae ein sesiynau ar ôl ysgol yn ffordd wych o gwrdd a chysylltu â theuluoedd eraill, a chymryd rhan ar yr un pryd mewn gweithgareddau newydd bob wythnos sy’n datblygu sgiliau cyfathrebu, rhyngweithio a chwarae.
A lady with ginger hair is smiling as she takes a sip of a drink from a teacup.

Ymlacio a sgwrsio

Dewch i fwynhau paned a sgwrs mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol. Mae ein sesiynau Ymlacio a Sgwrsio yn gyfle i gwrdd â theuluoedd eraill, creu ymdeimlad o gymuned a rhannu cyngor.
A young girl lies on a red beanbag and smiles up as a multicoloured windmill/

Gweithdai wedi’u targedu

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn gweithio gyda siaradwyr gwadd i gynnig ystod o weithdai wedi’u targedu. Bydd pob un ohonynt yn cynnig cyfle i archwilio meysydd cymorth penodol yn fanwl er mwyn eich helpu i feithrin sgiliau newydd, cael gwybodaeth newydd a magu hyder.

Ysgol goedwig

Yn yr ysgol goedwig, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau chwarae drwy gynorthwyo plant i archwilio eu hamgylchedd, rhyngweithio ag ef, sylwi ar newid, gwerthfawrogi byd natur a darganfod yr hyn sydd o’u cwmpas.
A young boy with blonde hair is wearing a home made paper mask.

Gweithgareddau yn ystod y gwyliau

Rydym yn cynnal gweithgareddau ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, sy’n cynnwys diwrnodau i’r teulu a chlybiau Sadwrn. Yn ystod y gweithgareddau hyn, rydym yn archwilio ystod o themâu cyffrous er mwyn helpu i wella sgiliau cyfathrebu, rhyngweithio a chwarae.
A group of children of different ages are taking part in a activity, waving multicoloured ribbons above their heads.

Symud ac ysgwyd

Sesiwn egnïol sy’n canolbwyntio ar ryngweithio a mynegiant drwy symudiadau a sain. O ioga ysgogol i greu eich cerddoriaeth eich hun, bydd pob wythnos yn archwilio thema wahanol, gyda help ambell westai arbennig.
A young girl sits on an older ladies lap whilst listening to a story. An older gentleman is also sitting on the floor next to them.

Straeon synhwyraidd

Mae’r sesiynau straeon synhwyraidd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Rydym yn defnyddio gwahanol weadau, teimladau a synau i ymgolli mewn stori a dod â’r stori’n fyw!
A young boy is sitting in a wooden high chair playing with yellow feathers.

Archwilio synhwyraidd

Cyfle i ddysgu mwy am y byd sydd o’ch cwmpas drwy archwilio pob un o’ch synhwyrau. Rydym yn dilyn themâu newydd bob wythnos, felly mae yna weithgaredd at ddant pawb!

Beth sydd yn eich ardal chi?

Rydym yn cynnal sesiynau rhithiol yn genedlaethol yn ogystal â sesiynau wyneb yn wyneb yn Birmingham, Dinbych a Loughborough. Defnyddiwch y cwymplenni isod i gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Birmingham

  • Ymlacio a sgwrsio
  • Straeon synhwyraidd
  • Clwb ar ôl ysgol
  • Archwilio synhwyraidd
  • Ysgol goedwig
  • Clwb Sadwrn
  • Diwrnodau i’r teulu

Dinbych

  • Aros a chwarae: Archwilio synhwyraidd
  • Diwrnodau i’r teulu
  • Symud ac ysgwyd

Loughborough

  • Straeon synhwyraidd
  • Archwilio synhwyraidd
  • Diwrnodau i’r teulu

Cymorth proffesiynol

Mae ein tîm cyfeillgar wrth law i gynnig cymorth a chyngor i weithwyr proffesiynol drwy:

  • Sesiynau aros a chwarae
  • Clybiau ar ôl ysgol
  • Gwaith arsylwi mewn sesiynau
  • Boreau coffi
  • Mynychu cyfarfodydd rhwydweithio

Os hoffech drafod beth yw’r ffordd orau y gallwn gynorthwyo eich sefydliad, mae croeso i chi anfon ebost i [email protected] neu ffonio 0791 765 7519.

Gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau a’n digwyddiadau sydd ar ddod ac am y cymorth y gallwn ei gynnig.