Cysylltu a Chwarae: sesiynau chwarae am ddim i blant ag anableddau cymhleth
Mae Cysylltu a Chwarae, sef ein gwasanaeth chwarae am ddim i blant, yn cynnig cyfle i deuluoedd plant ag anableddau cymhleth ddod ynghyd i ddatblygu, cyfathrebu a chysylltu ag eraill.
Nid cael hwyl yw unig ddiben chwarae – mae’n bwysig i ddatblygiad plentyn hefyd. Mae’n helpu plant ag anableddau cymhleth i ddysgu sgiliau cyfathrebu a chreu cysylltiadau ag eraill. Mae ein tîm arbenigol o arweinwyr chwarae’n deall hynny ac yn cynnal rhaglenni cymorth wedi’u targedu, sesiynau galw heibio a rhaglenni gwyliau y bwriedir iddynt ddatblygu sgiliau plant drwy ystod o weithgareddau sy’n seiliedig ar chwarae.
Llenwch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb a chael gwybod mwy am ein sesiynau sydd ar ddod yn eich ardal chi, neu parhewch i ddarllen er mwyn dysgu mwy am ein gwasanaeth, ein lleoliadau a’r modd yr ydym wedi helpu teuluoedd eraill.
Pa weithgareddau yr ydym yn eu cynnig?
Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o sesiynau chwarae, gan gynnwys sesiynau chwarae mewn grŵp, straeon synhwyraidd, celf a chrefft ac ysgol goedwig yn yr awyr agored. Fel rheol, maent ar ffurf cyrsiau chwe wythnos er mwyn i ni allu helpu eich plentyn i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau yn ystod y gwyliau yn ogystal â sesiynau achlysurol a gynhelir unwaith yn unig.
Rydym yn gwahodd teuluoedd newydd i ymuno â ni ar gyfer ‘sesiwn ddarganfod’ gychwynnol, fel y gallwn ddod i’w hadnabod a llunio cynllun sy’n addas i anghenion a diddordebau eu plentyn nhw.
Mae pob un o’n sesiynau yn helpu plant i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu, cyfathrebu a chwarae gyda’u rhieni a’u gofalwyr, a gyda phlant eraill.
Connect and Play
Fill in our enquiry form and our team will get back to you with more information.
Ar gyfer pwy y mae Cysylltu a Chwarae?
Mae’n agored i blant 0-8 oed ag anableddau cymhleth, a’u rhieni a’u gofalwyr.
Yw eich plentyn chi’n hŷn nag 8 oed? Peidiwch â phoeni, oherwydd mae gennym lawer o wasanaethau eraill ar gyfer plant a phobl ifanc – mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Ble’r ydym ni?
Mae gennym leoliadau yn Birmingham, Loughborough a Gogledd Cymru. Mae ein cyfleusterau a’n hoffer yn ceisio darparu amgylchedd cefnogol i blant ag anableddau cymhleth.
Os nad yw eich tref chi wedi’i rhestru, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth rhithiol ac yn ehangu i leoliadau newydd. Dywedwch wrthym ble’r ydych yn byw fel y gallwch gael gwybod mwy a chael y newyddion diweddaraf.
Cwrdd â’r tîm
Mae gan ein tîm arbenigol flynyddoedd o brofiad o helpu plant ag anableddau cymhleth i ddysgu, datblygu a chyfathrebu
Beth y mae pobl yn ei ddweud am Cysylltu a Chwarae
“Rydym yn hoff iawn o’r ffaith bod pob gweithgaredd sydd wedi’i drefnu yn hygyrch i’m plentyn, a bod y staff mor gyfeillgar, croesawgar a brwdfrydig. Mae’r sesiynau hefyd yn ddifyr iawn, ac yn ysgogol ac yn addysgiadol ar yr un pryd.”
Sonia, Siyana’s mother
Cyfle i ddysgu pam y mae chwarae’n bwysig ac i ddarganfod ffyrdd o chwarae gyda’ch plentyn gartref
Yn Sense, mae gennym 65 mlynedd o brofiad o helpu plant ag anableddau cymhleth i fyw eu bywyd i’r eithaf. Rydym yn gwybod mor bwysig yw chwarae o safbwynt helpu plant i ymwneud â’r hyn sydd o’u cwmpas, datblygu hunanymwybyddiaeth a chysylltu ag eraill.
Yn ogystal â’n gwasanaeth chwarae, rydym yn darparu gwybodaeth ac adnoddau er mwyn i rieni a gofalwyr chwarae gyda’u plant. Darllenwch ein canllaw ynghylch sut i chwarae gyda’ch plentyn.