Dinbych, Sir Ddinbych
Hyb Sense Dinbych yw ein canolfan newydd sbon, yn agor yn 2023 yn Sir Ddinbych.
Man lle nad oes neb yn cael ei adael allan o fywyd
Cwrdd â phobl eraill, darganfod diddordebau cyffredin a gwneud ffrindiau newydd yn hyb Sense Dinbych.
Mae hyb Sense Dinbych yn agor yn 2023. Byddwn yma i unrhyw un sydd angen cymorth gyda nam ar y clyw, nam ar y golwg, anabledd corfforol, awtistiaeth ac anableddau dysgu, ni waeth beth yw eich oedran.
Dull Sense
Nid dim ond lle i dreulio’ch diwrnod yw hyb Sense Dinbych – mae’n fan lle gallwch ddysgu sgiliau newydd, mynegi eich hun a rhoi cynnig ar bob math o weithgareddau newydd.
Mae ein hymagwedd synhwyraidd arbennig yn sicrhau eich bod yn gallu cyfathrebu, archwilio’r byd a mynegi eich hun mewn ffordd sy’n addas i chi. A byddwch yn cael eich cefnogi gan staff medrus a chyfeillgar i wneud eich dewisiadau eich hun.
Bydd gennych eich cynllun gofal a chymorth personol eich hun, yn seiliedig ar eich dewisiadau a’ch diddordebau. A gallwch fwynhau cymysgedd o weithgareddau – un-i-un neu gyda phobl eraill – yn hyb Sense Dinbych ac allan yn y gymuned.
Ymlaciwch mewn amgylchedd diogel
Mae gan hyb Sense Dinbych gyfleusterau ac offer arbennig i wneud cyfathrebu, dysgu a symud o gwmpas yn haws.
Mae hyn yn cynnwys:
- Gofod gweithgaredd mawr a dwy ystafell weithgareddau lai gydag offer codi.
- Ystafell synhwyraidd.
- Ystafell dechnoleg drochi a chynhwysol.
- Fflat hyfforddi sgiliau byw’n annibynnol gydag ystafell wely, ystafell ymolchi a chegin.
- Dwy ystafell ymolchi hygyrch gyda bath synhwyraidd a theclyn codi.
- Gardd synhwyraidd.
- Gwybodaeth i ymwelwyr.
Beth ydyn ni’n ei gynnig?
- Rhaglenni celfyddydau, chwaraeon a lles.
- Sesiynau chwarae i blant dan wyth oed.
- Helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith, swyddi a chael cymorth ychwanegol yn y gweithle.
- Gwasanaethau dydd i feithrin sgiliau bywyd fel coginio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
- Cyfleoedd ar gyfer seibiannau byr oddi cartref.
Bydd ymgynghorwyr arbenigol, artistiaid anabl, elusennau lleol, rhieni, gofalwyr a phobl anabl i gyd yn ymwneud â chreu hyb Sense yn Ninbych.
Cysylltu
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi nawr, neu os hoffech chi roi eich enw i lawr i gael eich atgoffa am y diwrnod agor, rhowch wybod i ni.