Gwasanaethau Sense yng Nghymru
Sicrhewch y gefnogaeth sy’n iawn i chi gyda Sense: boed yn wasanaethau dydd, cefnogaeth gymunedol neu fyw gyda chymorth. Rydyn ni yma i chi, ar draws gogledd a de Cymru.
Hybiau Sense yn Ninbych a Chaerffili
Mae hybiau Sense yn ganolfannau dydd hygyrch sy’n dod â’r gymuned ynghyd. Maent yn cynnal digwyddiadau cynhwysol ar gyfer pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, i leihau unigrwydd a hybu lles.
Mae ein hybiau yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl anabl, gan gynnwys:
- Gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon.
- Sesiynau synhwyraidd a chwarae meddal.
- Addysgu sgiliau bywyd allweddol.
- Cefnogaeth arbenigol i bobl sy’n ddall fyddar.
Mae dwy ganolfan Sense yng Nghymru: hyb Sense Dinbych (yn agor yn 2023) a hyb Sense Caerffili.
Cefnogaeth yn eich cymuned
Angen help i gyfathrebu, neu i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd?
Mae Sense yn cynnig cymorth un-i-un i bobl gydag anableddau cymhleth ym mhob rhan o Gymru.
Mae Sense yn cefnogi pobl i gymryd rhan yn eu cymunedau. Chi sydd i benderfynu sut olwg sydd ar hynny.
Efallai eich bod am chwarae bingo, sblasio o gwmpas eich pwll lleol neu fynd i weld eich meddyg teulu.
Rydym yn cefnogi ein cleientiaid gyda phethau fel:
- Darllen eu post a gwneud galwadau ffôn.
- Cymryd rhan mewn clybiau cymdeithasol.
- Gweithgareddau ymarfer corff a hamdden.
- Siopa.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth un-i-un i bobl sy’n byw mewn gofal preswyl.
Os hoffech siarad am sut y gallwn eich cefnogi, cysylltwch â ni.
Darllenwch fwy am gefnogaeth gymunedol gan Sense.
Byw gyda Chymorth yn Nhonypandy
Mae Byw gyda Chymorth ar gyfer pobl sydd eisiau byw’n annibynnol, ond sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o hyd.
Rydym yn cynnig Byw gyda Chymorth i bobl ag anableddau cymhleth yn Nhonypandy, Rhondda Cynon Taf. Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal hon i gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Sense Cymru.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch â thîm Sense Cymru yng ngogledd neu dde Cymru.