Cwrdd â’r tîm Cysylltu a Chwarae
Mae gan ein tîm lawer iawn o brofiad o weithio ym maes anghenion addysgol arbennig ar gyfer plant ifanc.
Jennifer – Arweinydd cenedlaethol
Cyn ymuno â Sense, roeddwn yn athrawes arweiniol mewn canolfan adnoddau gwybyddiaeth a dysgu. Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gyda phlant ac yn eu dysgu i archwilio eu dulliau cyfathrebu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Roedd gweld plentyn, na allai gyfathrebu o’r blaen, yn defnyddio iaith arwyddion gyda’i rieni neu’n chwarae gyda phlentyn arall yn gymaint o fraint! Rwy’n gobeithio dod â phopeth yr wyf wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i’n gwasanaethau ni, er mwyn galluogi teuluoedd i gysylltu a chwarae
Chloe – Cydlynydd cenedlaethol
Mae fy nghefndir i ym maes y celfyddydau, ac rwyf wedi cael y fraint o weithio ar ystod o brosiectau cymunedol a oedd yn canolbwyntio ar addysg ddiwylliannol i blant a phobl ifanc. Ym mhob un o fy swyddi blaenorol, roeddwn wrth fy modd yn cynorthwyo pobl ifanc i ddarganfod dulliau newydd o’u mynegi eu hunain ac o gyfathrebu a chysylltu. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod â’r brwdfrydedd hwnnw i waith Tîm Ymyrraeth Gynnar a Chwarae Sense, ac at helpu teuluoedd i gael gafael ar y cymorth a’r cyfleoedd gorau iddyn nhw!
Birmingham
Laura – Arweinydd chwarae
Rwyf wrth fy modd yn creu cyfleoedd difyr a diddorol sy’n galluogi plant a’u teuluoedd i gysylltu a chyfathrebu drwy eu profiadau. Roeddwn yn arfer bod yn athrawes, ac rwyf wrth fy modd yn dod â’m profiad o fod mewn ystafell ddosbarth i’r swydd hon. Byddaf bob amser yn ceisio creu lleoliad lle mae plant a theuluoedd yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Fy hoff sesiwn yw’r sesiwn chwarae anniben, ac rwyf bob amser yn hapus fy myd yn gwneud y gweithgareddau hynny!
Mae gweld y cynnydd y mae cymaint o’n plant wedi’i wneud yn ystod y sesiynau hyn yn anhygoel ac rwy’n edrych ymlaen at weld hynny’n parhau.
Kelly – Arweinydd chwarae
Mae fy nghefndir i ym maes anghenion addysgol arbennig ac anableddau ac ym maes therapi lleferydd ac iaith. Fel arweinydd chwarae, byddaf yn diwallu anghenion plant a’u teuluoedd drwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau diddorol. Mae anghenion addysgol arbennig ac anableddau’n faes sy’n agos iawn at fy nghalon. Mae gen innau ddau blentyn sydd ag anableddau ac anghenion o ran cymorth, felly byddaf yn rhannu fy mhrofiad a fy ngwybodaeth i er mwyn helpu i roi arweiniad i deuluoedd a sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar y cymorth gorau posibl.
Loughborough
Natasha – Arweinydd chwarae
Cyn ymuno â Sense roeddwn yn gweithio mewn ysbyty plant, yn darparu cyfleoedd chwarae a chymorth i blant a’u teuluoedd. Mae gen i deimladau cryf ynglŷn â gwerth chwarae, a’i bwysigrwydd i blant, ac ynglŷn â sicrhau hefyd bod cyfleoedd chwarae’n cael eu haddasu er mwyn diwallu anghenion unigol pob plentyn.
Fel Arweinydd Ymyrraeth Gynnar a Chwarae, rwyf yma i greu amgylchedd creadigol, llawn hwyl i blant a theuluoedd er mwyn eu hannog i chwarae, cyfathrebu a datblygu.
Sami – Arweinydd chwarae
Cyn dechrau gweithio i Sense, roeddwn yn arfer gweithio ym maes addysg fel cynorthwy-ydd addysgu ac roeddwn yn arbenigo mewn dulliau meithrin. Roeddwn yn darparu cymorth ac ymyriadau i lawer o blant o bob oed, a oedd yn cynnwys plant ag anghenion penodol ym maes anghenion addysgol arbennig ac anableddau ac ym maes anghenion cymdeithasol, emosiynol a meddyliol.
Rwyf wrth fy modd yn gwneud ioga gyda’r plant ac yn ymwneud â byd natur, bod yn greadigol a chwarae. Mae gallu cynorthwyo plant a’u teuluoedd ar eu taith o ran cysylltu a chyfathrebu yn rhoi cymaint o bleser i fi. Mae’r ffaith fy mod innau’n fam, ac yn arweinydd Rainbows a Brownies hefyd, yn ychwanegu at yr holl brofiadau difyr!
Dinbych
Emma – Arweinydd chwarae
Mae gen i brofiad blaenorol o weithio ym maes cymorth dysgu ac ym maes lleferydd ac iaith, felly rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phlant. Does dim yn well gen i na gweld cynnydd plentyn wrth iddo dyfu o ran gallu a hyder.
Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth a’m profiad blaenorol ym mhob sesiwn i ddiwallu anghenion pob un o’r plant a’u rhieni/gofalwyr. Byddaf yn ceisio sicrhau bod y sesiynau mor ddifyr a chynhwysol ag sy’n bosibl, gan sicrhau hefyd fy mod yn darparu amgylchedd cyfforddus a diogel i bawb. Byddaf yn defnyddio llawer o weithgareddau celf a chrefft a dulliau synhwyraidd, oherwydd rwy’n credu bod hynny yn galluogi’r plentyn i’w fynegi ei hun a mwynhau, sy’n bwysicach na dim!