Mesur anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig

Available in:

Mewn partneriaeth â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol, rydym wedi datblygu a dyfnhau ein dealltwriaeth o raddfa anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig. Mae ein dadansoddiad yn darparu amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol.

Mae Sense yn bodoli i wella bywydau pobl ag anableddau cymhleth. Yn y Deyrnas Unedig, mae gwybodaeth ac ystadegau ar y grŵp hwn wedi bod yn gyfyngedig – rydym yn newid hyn.

Bydd ein dirnadaeth yn ein galluogi i ddeall yn well anghenion a phrofiadau pobl ag anableddau ar bob cam o’u bywyd. Rydym eisiau tynnu sylw at yr anghydraddoldebau a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, gan helpu i gefnogi eu hanghenion addysgol, iechyd a chymdeithasol fel y gallant fyw bywydau llawn.

Am y tro cyntaf, mae’r darn hwn o ymchwil wedi helpu i amcangyfrif bod 1.6 miliwn o bobl ag anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig.

Beth yw anableddau cymhleth?

At ddibenion yr ymchwil hwn, mae gan rywun anableddau cymhleth os oes ganddo ddau neu fwy o’r cyflyrau canlynol ac yn adrodd bod ei anableddau’n effeithio ar ei fywyd:

  • Colli golwg
  • Colli clyw
  • Awtistiaeth
  • Anabledd dysgu

Gall yr anghenion hyn fod gyda pherson o enedigaeth, neu yn dilyn salwch neu anaf, neu gallant ddatblygu gydag oedran. Efallai y bydd angen cymorth lefel uchel ar bobl ag anableddau cymhleth yn eu bywydau bob dydd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am anabledd cymhleth yma, ac amdano’r pobl mae Sense yn eu cefnogi.

Ystadegau allweddol

Roeddem eisiau ateb i’r cwestiwn ‘Faint o bobl sydd ag anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig?’ Roedd yn bwysig hefyd i ni ddeall mwy am sut olwg fydd ar anabledd cymhleth yn y dyfodol. Canfu ein hymchwil:

Canfyddiadau allweddol

  • Mae gan 1 o bob 10 o bobl anabl anableddau cymhleth.
  • Mae yna 1.6 miliwn o bobl ag anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig heddiw.
  • Rhagwelir y bydd 2 filiwn o bobl ag anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig erbyn 2029.

Ffigurau ar gyfer anableddau cymhleth yng Nghymru

O’r 1.6 miliwn o bobl yr amcangyfrifir eu bod yn byw yn y Deyrnas Unedig ag anableddau cymhleth, mae tua 84,000 yng Nghymru.

Mae dadansoddiad yn awgrymu bod nodweddion y bobl hyn fel a ganlyn.

Grŵp oedranNifer o bobl
0-17 oed15,752
18-64 oed35,402
Dros 65 oed34,894
RhywNifer o bobl
Gwrywaidd46,363
Benywaidd39,686
Grŵp lleiafrif ethnigNifer o bobl
Asiaidd954
Du614
Cymysg/Arall1,039

O ble mae’r niferoedd hyn yn dod?

Daw’r ffigurau hyn o ddadansoddiad a gwblhawyd gennym gyda’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol. Defnyddiwyd data o Arolwg Adnoddau Teuluol yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar y cyd ag amcangyfrifon hanesyddol ac amcangyfrifon y dyfodol o gyfansoddiad poblogaeth y Deyrnas Unedig.

Darllenwch grynodeb o’n methodoleg mesur anableddau cymhleth.

Cysylltwch â [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael data lleol ar gyfer eich ardal.

Sut y gwnaethom fesur anableddau cymhleth yn y Deyrnas Unedig

Gweithiodd Sense gyda’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol i amcangyfrif faint o bobl ag anableddau cymhleth sy’n byw yn y Deyrnas Unedig. Darparodd ein hastudiaeth hefyd fewnwelediadau rhanbarthol a demograffig, yn ogystal ag amcanestyniad o anabledd cymhleth yn y dyfodol.

Mae’r amcangyfrifon hyn wedi’u datblygu gan ddefnyddio’r data a gasglwyd yn Arolwg Adnoddau Teuluol (FRS) blynyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau o 2012/13 i 2019/20. Mae’r FRS yn ffynhonnell ddata flaenllaw ar anabledd yn y Deyrnas Unedig.

Yn yr arolygon hyn, cesglir data ar bob aelod o bob cartref a samplwyd. Gofynnir i ymatebwyr y GTA ddarparu gwybodaeth am eu hamgylchiadau ariannol, trefniadau byw a’u hiechyd. Mae’r olaf yn cyffwrdd ag iechyd corfforol a meddyliol, gan gynnwys salwch hirdymor a chyflyrau iechyd a’r effaith a gaiff y rhain ar fywydau pobl.

Cyplyswyd yr wybodaeth a gasglwyd yn yr arolygon hyn ag amcangyfrifon swyddogol o boblogaeth y Deyrnas Unedig, gan ein galluogi i nodi nifer y bobl sy’n byw ag anableddau cymhleth a’u proffiliau demograffig.

Gwnaed amcangyfrif niferoedd poblogaeth ar gyfer is-grwpiau llai, ardaloedd daearyddol a rhagamcanion ar gyfer y dyfodol gyda dull modelu. Ar gyfer y cyfrifiadau hyn, defnyddiwyd data a gasglwyd gennym mewn tonnau blaenorol o’r FRS, yn ogystal â gwybodaeth am gyfansoddiad poblogaeth y Deyrnas Unedig yn hanesyddol ac yn y dyfodol.

Mae’n bwysig nodi bod ein hamcangyfrifon ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan niferoedd bach o bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig gwahanol. Mae’r modelu a’r data a ddefnyddiwyd i amcangyfrif y ffigurau hyn yn golygu nad ydynt bob amser yn dod i’r un cyfanswm, a dylid eu dehongli’n ofalus, yn enwedig mewn ardaloedd daearyddol llai.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg a ddefnyddiwyd, e-bostiwch [email protected]