Ynglŷn â Sense Cymru

Sicrhewch y gefnogaeth sy’n iawn i chi gyda Sense: boed yn wasanaethau dydd, cefnogaeth gymunedol neu fyw gyda chymorth. Rydyn ni yma i chi, yng Ngogledd a De Cymru.

Hybiau Sense yn Ninbych a Chaerffili

Mae hybiau Sense yn ganolfannau dydd hygyrch sy’n dod â’r gymuned ynghyd. Maent yn cynnal digwyddiadau cynhwysol ar gyfer pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, i leihau unigrwydd a hybu lles.

 Mae ein hybiau yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl anabl, gan gynnwys:

  • Gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
  • Sesiynau synhwyraidd a chwarae meddal
  • Addysgu sgiliau bywyd allweddol
  • Cefnogaeth arbenigol i bobl sy’n ddall fyddar

Mae dwy ganolfan Sense yng Nghymru: Sense Gogledd Cymru yn Ninbych (yn dod yn fuan yn 2022) a Sense De Cymru yng Nghaerffili.

Cefnogaeth yn eich cymuned

Lin Wallace, a Sense Living tenant, and a support worker laughing together.

Angen help i gyfathrebu, neu i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd?

Mae Sense yn cynnig cymorth un-i-un i bobl ddall fyddar ym mhob rhan o Gymru.

Mae Tywyswyr Cyfathrebu ac Ymyrwyr Sense yn gweithio gyda phobl sy’n ddall fyddar yn y gymuned. Efallai y byddant yn eich helpu i wneud eich siopa wythnosol, siarad â ffrindiau neu fynd i apwyntiadau ysbyty.

Os hoffech siarad am sut y gallwn eich cefnogi, cysylltwch â ni.

Dysgwch fwy am sut mae Sense yn cefnogi pobl sy’n ddall fyddar.

Byw gyda chymorth

Mae byw gyda chymorth ar gyfer pobl sydd eisiau byw’n annibynnol, ond sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o hyd.

Rydym yn cynnig byw gyda chymorth i bobl ag anableddau cymhleth yn Nhonypandy, Rhondda Cynon Taf. Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal hon i gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Sense Cymru.

Darganfod mwy am fyw gyda chymorth.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch â thîm Sense Cymru yng Ngogledd neu Dde Cymru.