Straeon Synhwyraidd | Caernarfon 0-4yrs

Mae ein sesiynau Straeon Synhwyraidd yn rhaglen cymorth wedi’i dargedu sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Mae ein rhaglenni cymorth wedi’i dargedu yn rhoi cyfle i deuluoedd weithio tuag at dargedau unigol, yn unol â fframweithiau a gaiff eu cydnabod. Maent yn ddewis gwych i deuluoedd a fyddai’n hoffi cael cymorth mwy arbenigol sy’n canolbwyntio ar agweddau allweddol ar ddatblygiad eu plentyn.

Drwy ein sesiynau Straeon Synhwyraidd, rydym yn defnyddio dull cyfathrebu llwyr i alluogi pob unigolyn i’w fynegi ei hun ym mha ffordd bynnag sy’n gweithio orau iddo ef/iddi hi, drwy gyfuniad o seiniau, arwyddion, symbolau, technoleg a llawer mwy! Bob wythnos, byddwn yn rhannu ein hoff destunau ac yn defnyddio gwahanol weadau, teimladau a seiniau i ddod â’r stori yn fyw! Bydd teuluoedd hefyd yn cael pecyn adnoddau fel bod ganddynt y cyfarpar i allu parhau i roi’r cymorth hwn gartref a theimlo’n ddigon hyderus i wneud hynny.

Ar gyfer pwy?
Mae’r sesiwn hon ar gyfer teuluoedd sy’n perthyn i’n gwasanaeth Cysylltu a Chwarae rhad ac am ddim sy’n cynorthwyo plant 0-8 oed ag anableddau cymhleth. Os nad ydych yn siŵr a yw’r sesiwn hon yn addas i chi, cysylltwch â [email protected] i siarad ag aelod o’n tîm. Rhaid i o leiaf un rhiant/gofalwr fynychu’r sesiwn lawn gyda phob plentyn. Mae croeso i frodyr a chwiorydd ddod hefyd.

Sut y gallaf ymuno?
Rhaid archebu lleoedd ymlaen llaw drwy ein gwefan. Drwy lenwi’r ffurflen archebu hon, byddwch wedi cofrestru ar gyfer y tymor llawn. Mae disgwyl i deuluoedd fynychu bob wythnos i’w galluogi i gael y budd mwyaf o’r rhaglen hon.

 

Our sensory stories sessions are a targeted support programme (TSP) which focus on developing communication skills. Our TSP's provide families with the opportunity to work towards individual targets, in line with recognised frameworks.  It's a great choice for families who would like more specialised support, focusing on key areas of their child's development.

Through our Sensory Stories sessions, we use a total communication approach to enable each individual to express themselves in whatever way works best for them, through a combination of sounds, signs, symbols, technology and much more! Each week, we share our favourite texts and use different textures, sensations and sounds to really bring the story to life! Families will also receive a resource pack so that they have the tools to continue this support at home and feel confident to do so.

Who is it for?
This session is for families who are part of our free Connect and Play service, which supports children aged 0-8 with complex disabilities. If you’re not sure whether this session is for you, please contact [email protected] to speak with a member of our team. At least one parent/carer must attend the full session with each child. Siblings are also welcome to accompany.

How can I join?
Spaces must be booked in advance via our website. By completing this booking form, you will be registered for the full term. Families are expected to attend each week to enable them to get the most out of this programme. Full address and session details will be provided once your booking is confirmed, if you have any questions, please contact [email protected].

Map