Ynglŷn â Sense Cymru
Sicrhewch y gefnogaeth sy’n iawn i chi gyda Sense: boed yn wasanaethau dydd, cefnogaeth gymunedol neu fyw gyda chymorth. Rydyn ni yma i chi, yng Ngogledd a De Cymru.
Hybiau Sense yn Ninbych a Chaerffili
Mae hybiau Sense yn ganolfannau dydd hygyrch sy’n dod â’r gymuned ynghyd. Maent yn cynnal digwyddiadau cynhwysol ar gyfer pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, i leihau unigrwydd a hybu lles.
Mae ein hybiau yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl anabl, gan gynnwys:
- Gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
- Sesiynau synhwyraidd a chwarae meddal
- Addysgu sgiliau bywyd allweddol
- Cefnogaeth arbenigol i bobl sy’n ddall fyddar
Mae dwy ganolfan Sense yng Nghymru: Sense Gogledd Cymru yn Ninbych (yn dod yn fuan yn 2022) a Sense De Cymru yng Nghaerffili.
Cefnogaeth yn eich cymuned
Angen help i gyfathrebu, neu i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd?
Mae Sense yn cynnig cymorth un-i-un i bobl ddall fyddar ym mhob rhan o Gymru.
Mae Tywyswyr Cyfathrebu ac Ymyrwyr Sense yn gweithio gyda phobl sy’n ddall fyddar yn y gymuned. Efallai y byddant yn eich helpu i wneud eich siopa wythnosol, siarad â ffrindiau neu fynd i apwyntiadau ysbyty.
Os hoffech siarad am sut y gallwn eich cefnogi, cysylltwch â ni.
Dysgwch fwy am sut mae Sense yn cefnogi pobl sy’n ddall fyddar.
Byw gyda chymorth
Mae byw gyda chymorth ar gyfer pobl sydd eisiau byw’n annibynnol, ond sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o hyd.
Rydym yn cynnig byw gyda chymorth i bobl ag anableddau cymhleth yn Nhonypandy, Rhondda Cynon Taf. Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal hon i gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Sense Cymru.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch â thîm Sense Cymru yng Ngogledd neu Dde Cymru.