Sense Cymru (Cymraeg)
Mae Sense Cymru yn darparu ystod o wasanaethau ar draws Cymru i bobl fyddarddall a’u teuluoedd.
Er bod ein gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar bobl sydd wedi colli eu golwg a’u clyw – i raddau sy’n golygu eu bod yn cael trafferthion o ran symud, cael mynediad i wybodaeth a chyfathrebu – rydym hefyd yn gweithio gydag unigolion sydd wedi colli eu golwg neu eu clyw ac sydd ag anableddau eraill.
Sut rydym yn helpu
Mae gan Sense Cymru staff sy’n gweithio yng ngogledd, canolbarth, gorllewin a de Cymru, ac mae ein gwasanaethau’n cynnwys y canlynol:
- Darparu cymorth arbenigol un i un ar gyfer pobl fyddarddall trwy gyfrwng tywyswyr cyfathrebu a swyddogion ymyrryd
- Darparu allgymorth i blant, teuluoedd ac oedolion byddarddall yn eu cartrefi eu hunain
- Cynnal asesiadau arbenigol o oedolion a phlant byddarddall
- Cynnal ystod o gyrsiau hyfforddi
- Ymgyrchu ar lefel leol a chenedlaethol
- Cynnig cyngor ynghylch polisi ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol
- Cynnig cyngor arbenigol ynghylch dallineb-byddardod i gydweithwyr yn y sector statudol, y sector annibynnol a’r sector gwirfoddol.
Cymorth yn y gymuned
“Hoffwn ddiolch i chi am eich help a’ch anogaeth ac am ymweld â mi yn fy nghartref. Oherwydd fy mhroblemau iechyd a’r ffaith bod y cyffuriau sy’n gysylltiedig â nhw wedi fy ngwanhau, dyma’r unig ffordd y gallaf fynd allan.
“Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich caredigrwydd dros y blynyddoedd.”
Dynes fyddarddall, 85 oed
“Rwy’n elwa cymaint o’r gwasanaeth. Mae cael help i gyfathrebu’n golygu llawer i mi. Heb y gwasanaeth hwn, ni fyddai gennyf yr hyder i fynd allan ar fy mhen fy hun. Mae pobl mor ddiamynedd. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi."
“Mae’r pleser yr wyf yn ei gael o ddefnyddio’r gwasanaeth yn ddifesur.”
Pobl sy’n defnyddio gwasanaeth Tywyswyr Cyfathrebu
Cymryd seibiant
Mae gan Sense Cymru gaban gwyliau ym Mharc Cenedlaethol prydferth Arfordir Penfro, a gellir archebu’r caban gwyliau trwy gysylltu â swyddfa Merthyr Tudful ar 0845 127 0090.
Mae’r caban gwyliau’n gwbl hygyrch ac mae’n addas i’r sawl sy’n defnyddio cadair olwyn. Rhoddir blaenoriaeth i bobl fyddarddall a’u teuluoedd.
Cymorth pellach
Mae gan Sense Cymru gysylltiadau ardderchog â chydweithwyr sy’n gweithio i Sense ar draws y DU, a gall gael mynediad i ystod o wasanaethau a gynigir ar lefel y DU. Er enghraifft, gall Sense gynnig cymorth a chyngor cyfreithiol i bobl fyddarddall y gallai fod angen gwybodaeth arnynt am eu hawl i wasanaethau neu unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r ffaith eu bod yn fyddarddall.
Ymunwch â ni
A oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni? Os felly, cymerwch gip ar ein tudalennau Gweithio gyda ni a Swyddi gwag cyfredol, a’r tudalennau Gwirfoddoli yn ein hadran Cymryd rhan. Mae ein prif swyddfa ym Merthyr Tudful, ac mae modd cyrraedd y swyddfa’n hwylus ar hyd y ffyrdd neu drwy ddefnyddio’r cysylltiadau rheilffordd sydd ddwy funud o’r swyddfa.
Os oes gennych gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni yn swyddfa Merthyr Tudful ac fe wnawn ni ein gorau glas i’ch helpu.
Sense Cymru
Tŷ Penderyn
26 Stryd Fawr
Merthyr Tudful
CF47 8DP
E-bost: cymruenquiries@sense.org.uk
Ffôn: 0845 127 0090
Ffôn testun: 0845 127 0092;
Ffacs: 0845 127 0091
First published: Wednesday 5 September 2012
Updated: Wednesday 7 November 2012
